Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2020
Amser:
09.30 -
10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6273
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Vikki Howells AS Anthony Cooper |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Dewisodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fod yn absennol o'r cyfarfod cyfan oherwydd roedd wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod Grŵp y Blaid Lafur roedd y gŵyn a gyflwynwyd yn cyfeirio ato.
1.2 Andrew T Davies AC oedd yn y Gadair wedi i’r Pwyllgor gytuno ar 6 Tachwedd 2019 i’w ethol yn Gadeirydd dros dro.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
2.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)
2.2 Yn ystod y drafodaeth ar adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i), cafodd yr Aelodau dystiolaeth lafar gan Vikki Howells AC, sef yr Aelod dan sylw. Roedd Anthony Cooper, Ysgrifennydd Grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol, yn bresennol gyda Ms Howells.